Camsyniadau a ‘barbariaeth’: Llanedern, Llanedeyrn, Llanedarne …

Soniais yn fy mlogiad diwethaf am Lecwydd, ardal o Gaerdydd sydd heb ffiniau cydnabyddedig am y rheswm syml nad yw’n bodoli fel ward neu gymuned. Yn ddiweddar bu Cyngor Caerdydd yn ystyried newid hynny. Er mai penderfynu peidio â chreu cymuned o’r enw Lecwydd a wnaed yn y pen draw, mae’r Cyngor yn bwrw ati—yn ddibynnol ar gyfnod o ymgynghori—i roi statws cymuned i sawl rhan o’r ddinas, gan gynnwys Pontcanna a Llanedern. Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i fynegi barn ar sawl peth, gan gynnwys sillafiadau rhai o’r cymunedau newydd. Bwriad hyn o flogiad, felly, yw dweud gair am enw un o’r cymunedau newydd hyn, sef Llanedern.

Ond pe bawn mewn hwyliau pryfoclyd, byddwn hefyd yn dweud gair am sillafiad yr enw Pontcanna. Er bod yr ardal yn bur enwog am ei diwylliant Cymraeg, mae’n ddiddorol fod yr enw—fe ymddengys—yn cynnwys camdreiglad go amlwg. Canys onid Pontganna yw’r ffurf ddisgwyliedig? Gyda -tg-, fel yn Pontgarreg, y pentref ger Llangrannog, neu Pontgadfan, capel y Wesleaid yn Llangadfan? Rhag ichi feddwl mai breuddwyd gwrach ar fy rhan yw’r sillafiad hwn, dyma ichi rai enghreiffiau cynnar. Cyfeirir at Pontganna mewn ewyllys o 1702 ac fe gawn Pont Ganna yng nghofnodion y Sesiwn Chwarter o 1751. Pontganna oedd y ffurf a ddefnyddiwyd gan Lewis Powell (1788–1869), gweinidiog cyntaf achos annibynnol Ebeneser, yng nghofrestr ei eglwys.  A Pontganna yw’r ffurf yn yr adroddiad hwn o 1857 am adeiladu Heol y Gadeirlan, digwyddiad y dywedir ei fod—coeliwch neu beidio—yn rhannol wireddu hen broffwydoliaeth gan y bardd Tomos ab Ieuan ap Rhys (c.1510–c.1560)! Pontganna

Ond gan nad wyf mewn hwyliau pryfoclyd, gadawaf Pontcanna i fod. Mae sillafiad yr enw hwn yn codi cwestiynau ieithyddol diddorol ac mae’n haeddu ei flogiad ei hun.

Llanedern amdani felly. Pan ddeuthum i Gaerdydd yn gyntaf a gweld arwyddion ac arnynt Llanedeyrn, credwn mai’r ynganiad priodol oedd Llanedéyrn, gyda’r pwyslais ar y sillaf olaf. Roedd hynny’n cyd-fynd ag ynganiad Llangyndeyrn yn sir Gaerfyrddin. (Esboniad ieithyddol byr y mae croeso ichi ei anwybyddu: elfen olaf yr enw Cyndeyrn yw teyrn ‘brenin’. Am mai ynganiad gwreiddiol y gair hwnnw oedd tëyrn—yn ddeusill a’r pwylais ar y sillaf gyntaf—mae’r cywasgiad unsill teyrn yn cymryd yr acen bwys pan fo’n sillaf olaf mewn enw cyfansawdd.)

Nid fi yn unig a oedd yn dweud Llanedéyrn chwaith—clywais sawl un arall yn ei ynganu yn yr un ffordd. Ond ar ôl peth amser deallais mai’r ffurf Gymraeg safonol oedd Llanedern, er nad oedd—ac nid yw—i’w gweld ar arwyddion yn aml iawn. Felly sylweddolais â pheth cywilydd fy mod wedi bod yn camynganu’r enw—yngenir Llanedern yn unol ag aceniad arferol geiriau Cymraeg, gyda’r acen bwys ar y goben neu’r sillaf olaf ond un. Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae enw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn rhoi arweiniad clir ynghylch yr ynganiad priodol.

Deuthum i’r casgliad amlwg fod dwy ffurf i’w cael: Llanedern yn y Gymraeg a Llanedeyrn yn y Saesneg. Ond fe sylweddolais hefyd nad oedd y ffurf Saesneg ysgrifenedig wir yn cynrchioli’r ynganiad llafar Saesneg arferol, sef—yn fras—Lanedin (fel a nodir gan yr ieithydd John C. Wells mewn astudiaeth ar acenion yn yr iaith Saesneg). Fel mae’n digwydd, trewais ar drydariad perthnasol i hynny heddiw:

Ac fel y dywed Dic Mortimer yn ei gerdd ‘Shall we dance‘, mae’r ffurf L(l)anedurn i’w chlywed gan rai hefyd. Ac o ddechrau darllen rhagor am hanes yr ardal, dyma daro ar ffurfiau eraill: L(l)anederne, L(l)anedarn, a L(l)anedarne. Sut y gallwn roi cyfrif am yr holl gymhlethdod, tybed? Dechreuwn â Llanedern. Mae’n enw o fath sy’n gyffredin drwy Gymru, wrth gwrs: llan + enw personol, sef Edern yn yr achos hwn (benthyciad o’r Lladin Eternus). Gallwn nodi wrth fynd heibio fod yr un enw i’w gael yn Llydaw hefyd: Lannedern. Nid oes gormod o ots ar hyn o bryd pwy oedd yr Edern yn yr enwau hyn, ond sylwn hefyd mai’r un enw sydd yn y pentref Edern yn Llŷn. Yn wir, mae enghreifftiau o alw’r fan honno yn Llanedern hefyd.

Ond o ble, tybed, y daeth y ffurf Llanedeyrn? Yr esboniad yw bod rhywun rywdro wedi tybio bod yr enw Edern yn cynnwys y gair teyrn (a grybwyllwyd uchod), a chan hynny fe gafwyd y sillafiad Edeyrn. Ni wn i pwy a wnaeth hynny na phryd, ond roedd y sillafiad yn sicr yn gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyna esbonio Llanedeyrn felly, ac yn wir roedd hi’n arferol ar un adeg i ysgrifennu Edeyrn am y pentref yn Llŷn. Fe ddangoswyd bod y ffurf Edeyrn yn un ffug yn bur gynnar—dyma erthygl sy’n datgan hynny yn 1882.

Ond bu rhai wrthi’n ddiwyd yn hybu’r ffurf Llanedeyrn wedi hynny. Un o’r mwyaf dylanwadol oedd y Cyrnol Charles Kemeys Kemeys-Tynte o Gefn Mabli (aelod o hen deulu Kemeys, rhag ofn nad oeddech wedi sylwi) a ddadleuodd yn gryf o blaid Llanedeyrn mewn araith eisteddfodol yn 1885. A chan mai ef oedd biau’r rhan fwayf o’r plwy bryd hynny, buasai’n anodd iawn i’r trigolion lleol ei wrthwynebu. Ond beth fyddai ynganiad arferol y trigolion hynny, tybed? Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y rhan fwyaf o drigolion plwy Llanedern yn siarad Cymraeg, a chan fod y plwy yn nhiriogaeth tafodiaith y Wenhwyseg, gallwn ddisgwyl mai –arn fyddai ynganiad y sillaf olaf. Ac yn wir, mae digonedd o enghreifftiau o’r sillafiad Llanedarn i’w cael mewn ffynonellau o’r cyfnod hwnnw.

Rhwng popeth, felly, mae modd inni esbonio’r holl ffurfiau a nodwyd uchod. Mae’r rhai sy’n dechrau ag L– yn hytrach nag Ll– yn amlwg yn deillio o ynganiadau Saesneg. Mae’r rhai sy’n diweddu ag –erne ac –arne yn dangos dylanwad arferion sillafu Saesneg (ni fyddai neb wedi ynganu’r e yn y ffurfiau hyn). Ac mae’r rhai sy’n gorffen mewn –arn (neu –arne) yn dangos dylanwad y dafodiaith Gymraeg leol. Erbyn heddiw, y sillafiad Llanedeyrn sy’n gyffredin yn y Saesneg. O ran ei ffurf, nid yw’n Saesneg, wrth gwrs: mae’r sillafiad –edeyrn yn gynnyrch camresymu am y Gymraeg. Ond erbyn heddiw, mae Llanedeyrn yn gweithredu fel sillafiad Saesneg, tra bo Llanedern yn sillafiad Cymraeg. Rwy’n tybio bod dylanwad Llanedeyrn ar yr ynganiad Lanedin, ond byddai angen arbenigwr ar y Saesneg i gadarnhau hynny (prin iawn yw’r geiriau Saesneg sy’n gorffen mewn –eyrn, wrth gwrs). Yn sicr, pe bai L(l)anedarne wedi ei mabwysiadau fel y ffurf Saesneg safonol—ac fe’i ceid yn gyffredin mewn dogfennau swyddogol ar un adeg—mae’n siŵr y byddai’r ynganiad Saesneg lleol yn wahanol erbyn heddiw.

Mae prinder y ffurf Llanedern ar arwyddion ffyrdd yn ddiddorol ynddo’i hun, wrth gwrs. Tybed a yw’n dangos nad yw cymuned Gymraeg Caerdydd, am ba reswm bynnag, wedi ymglywed yn gryf iawn ag anaddasrwydd y ffurf Llanedeyrn? Rhaid nodi yma y bu ymdrech gan J. H. Matthews (archifydd Corfforaeth Caerdydd) i sicrhau’r defnydd o Llanedern cyn gynhared â 1905. Yn y bumed gyfrol o’r Cardiff Records dywedodd yn gwbl bendant: ‘The spellings “Llanedeyrn” and “Llanedarne” are alike erroneous; the first is founded on mistaken etymology, the second a barbarism’. Tybed beth a ddywedai am y ffaith na welir Llanedern ar y rhan fwyaf o arwyddion Caerdydd yn yr unfed ganrif ar hugain? Ond rhof y gair olaf i’r bardd ‘Gorswg’ (Lewis Jones) a drigai yn y ffermdy o’r un enw a  safai gynt rhwng cylchdro Porth Caerdydd ac afon Rhymni, yn hen blwy Llanedern. Mae’n rhoi un enghraifft arall inni o gymhlethdod enwau Cymraeg ardal Caerdydd:

Gorswg

3 sylw ar “Camsyniadau a ‘barbariaeth’: Llanedern, Llanedeyrn, Llanedarne …

  1. Pontprennau,Pontcysyllte,Pontcreuddyn, Pontrhydfendigaid,Pontblyddyn……….Pontcanna yn hollol iawn. Pont ar afon Canna nid pont yn perthyn i Canna na phont wedi ei gwneud o ganna!

    • Diolch ichi am y sylw Megan. Fel y dywedais, bod yn bryfoclyd braidd yr oeddwn wrth sôn am yr enw Pontcanna. Wedi dweud hynny, mae rhai cwestiynau diddorol yn ei gylch. Beth neu bwy oedd ‘Canna’? Nant mae’n debyg, ond ni wn am gyfeiriad pendant at nant o’r enw yn yr ardal. Ynteu enw personol, fel y mynn rhai? Os felly byddai Pontganna yn gymar naturiol i Pont Leucu yn y Rhath. A hyd yn oed os nant oedd Canna, gallwn nodi bodolaeth enw fel Pont Ddyfi. Mae afon fach o’r enw Canna ym Mro Morgannwg, a Llanganna, nid Llancanna, yw’r pentref gerllaw. Rhaid ystyried Treganna hefyd. Onid Trecanna fyddai’r ffurf sy’n cyfateb i Pontcanna? Pwnc blogiad arall fel y dywedais! Ond mae’n amlwg fod Pontganna yn ffurf fyw ar un adeg, er nad yw felly bellach.

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Map Caerdydd Danddaearol | Diferion o'r Pwll Coch:

Gadael sylw