Ble mae Lecwydd?

‘Nid rhan o Gaerdydd yw Lecwydd’, meddai rhywun yn ddiweddar, ‘ond pentre ym Mro Morgannwg. Nid yw’r “Lecwydd” yng Nghaerdydd yn bodoli!’ Rwyf wedi clywed sylwadau tebyg fwy nag unwaith. Ac yn wir, sut y gall Lecwydd fod yn ddau le ar unwaith?

Mae’n gwbl gywir, wrth gwrs, fod pentref bychan ym Mro Morgannwg yr ochr draw i Bont Lecwydd o’r enw Lecwydd. Mae’n wir hefyd nad oes cymuned na ward etholiadol o’r enw Lecwydd yng Nghaerdydd. Ac mae’n wir mai’r Capital Shopping Park yw enw swyddogol yr ardal honno ger Stadiwm Dinas Caerdydd sy’n gartref i Asda, Marks and Spencers, Next ac amryfal fân-werthwyr cadwynllyd eraill. (Byddaf yn Asda bob bore Sul os oes rhywun am gwrdd am baned!)

Ond i drigolion Caerdydd, ‘down Leckwith’ yw lleoliad y siopau hyn a’r cae pêl-droed fel ei gilydd. Sut felly?

Mae hen fapiau yn rhoi’r ateb inni. Edrychwn yn gyntaf ar y map isod a luniwyd yn 1832 gan y Comisiwn Ffiniau ac sydd i’w weld ar wefan ‘A Vision of Britain through Time‘:

Lecwydd1832

Gwelwn fod hen blwyf Lecwydd yn gorwedd ar ddwy lan afon Elái ac yn cynnwys rhannau o’r Dreganna a’r Grangetown bresennol. Er mai i’r de-ddwyrain i’r Heol Lecwydd bresennol yr oedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd hynny, roedd y plwyf hefyd cynnwys ychydig o dir ar ochr ogledd-orllewinol y ffordd (lle y ceir y geiriau ‘Canton Moor’ ar y map). Roedd ffordd drwy’r ‘Cardiff Marsh’ yn ffurfio rhan o’r ffin rhwng plwyfi Lecwydd a Llandaf, ac mae map o 1812 yn dangos mai ‘Hewl y Grange’ oedd yr enw ar y ffordd honno (y Sloper Road bresennol, fwy neu lai) a arweiniai at hen ffermdy’r Grange.

Edrychwn ar fap arall sydd ychydig yn ddiweddarach, sef map degwm plwyf Llandaf (1844). Diolch i brosiect Cynefin mae modd gweld y mapiau degwm a’u gosod ar ben mapiau cyfoes, gan olygu mai gwaith rhwydd yw gweld y newidiadau a fu er canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. (Mae’r prosiect hwn yn gofyn am gymorth torfol i drawsgrifio cynnwys y mapiau, felly ewch ati ar bob cyfrif!)

Dyma felly fap 1844 wedi ei osod dros fap cyfoes:

Lecwydd1844

Gwelwn mai nant bach a redai drwy ganol y stadiwm athletau presennol oedd y ffin rhwng plwyfi Llandaf a Lecwydd i’r gorllewin i Heol Lecwydd. Erbyn hyn mae’r nant wedi diflannu, ac mae’r Canton Common Ditch a gymerodd ei le yn cydredeg ag ochr orllewinol Heol Lecwydd. Roedd nant arall yn rhedeg yn syth drwy ganol safle Ysgol Gymraeg Pwll Coch (cae rhif 354 ar y map). Roedd safle Parc y Jiwbilî (ar ran uchaf y map) yn rhan o blwyf Llandaf: fe grewyd y parc hwnnw o ran o’r hen Canton Common.

Mae’r mapiau’n dangos yn glir mai yn hen blwyf Lecwydd y mae Stadiwm Dinas Caerdydd, hanner y stadiwm athletau, a’r holl ardal o amgylch Hadfield Road a Bessemer Road. Er bod y rhan hon o’r hen blwyf bellach wedi ei rannu rhwng Treganna a Grangetown, mae’r cof amdano’n para ar lafar trigolion Caerdydd. Mae hefyd yn dal ei afael ar fapiau  sydd hyd heddiw yn cyfeirio at ‘Leckwith’ a ‘Leckwith Moors’: moor yw gair Saesneg yr ardal am forfa.

I’r gogledd-orllewin i’r Leckwith Moors y mae’r Ely Moors: Morfa Elái. Yn hanesyddol, darn o dir corslyd a pheryglus a fygythid yn gyson gan lifogydd oedd y morfa hwn. Ond erbyn heddiw, mae Morfa Elái yn un o’r llecynnau pwysicaf yn y wlad o ran dyfodol yr iaith Gymraeg. Cawn drafod y morfa hwnnw rywdro eto!

Advertisements

19 sylw ar “Ble mae Lecwydd?

    • Diolch am y cwestiwn. Yr ateb – anodd gwybod. Mae’n dibynnu i raddau beth oedd yr ynganiad Saesneg pan fenthyciwyd yr enw. Cwestiwn arall yw a fyddai siaradwyr Cymraeg yr ardal wedi cadw’r ‘j’ Saesneg. Byddwn yn tybio mai ‘Grænsh’ (gyda llafariad hir) sydd fwyaf tebygol, ond anodd profi hynny.

      Roedd y dafodiaith leol yn dueddol o hepgor ‘h’, ond ni fyddwn yn disgwyl gweld hynny mewn ffurf ysgrifenedig.

  1. Dywedodd rhywun wrthof unwaith fod y gair Lecwith yn tarddu o fastardeiddio’r gair Cymraeg Llechwedd, gydag un mewn bodolaeth yn ardal Leckwith, mae’n debyg. Erbyn hyn wrth gwrs mae Leckwith wedi ei gyfieithu i Lecwydd yn y Gymraeg. Tybed oes rhyw wirionedd yn hyn?

  2. Hywel Wyn Owen and Richard Morgan say Leckwith. Lecwydd is place of Helygwydd, pers n. Helygwydd. Leocwtha 1173 83. Leutenni 1179, Lecwyth 1314, Lleckwith 1700.

  3. Diolch Dylan. Gofynnaf i chi sylwi ar dudalen Sgwrs ar Wici, a chydnabod y weithred o ddileu gwybodaeth yn yr erthygl ar Lecwydd er mwyn ffafrio safbwynt sydd dan rywfaint o amheuaeth. Byddaf yn ddiolchgar am degwch yma gan mai lle i gyfrannu’n adeiladol ydy Wici, yn ôl pob tebyg.

    • Diolch Goronwy. Gan mai trafodaeth am gofnod Wicipedia yw hon bellach, y peth gorau, rwy’n credu, fyddai parhau â hi ar y wefan honno. Ond ambell sylw byr yn gyntaf. Byddwn yn gobeithio bod pawb ar Wicipedia yn ceisio bod yn deg, pa wahaniaeth barn bynnag sydd. Y cwestiwn sylfaenol yma, rwy’n credu, yw pa ffynhonnell ddibynadwy sydd ar gyfer y ddadl fod Lecwydd yn tarddu o Llechwedd — ni wn am un. (Wrth gwrs, mae ffynonellau sydd ag enghreifftiau o Llechwedd/Llechwydd ac mae’r golygiad diweddaraf o’r erthygl yn cydnabod hynny. Nid oes unrhyw ffynhonnell felly wedi ei dileu, hyd y gwelaf, er bod y dyfynnu wedi ei gwtogi. Yn wir, ychwnaegwyd enghraifft gynharach o’r ffurfiau Llechwedd/Llechwydd.) Cyflwyno erthyglau sydd wedi eu llunio ar sail ffynonellau dibynadwy yw nod Wicipedia yn hytrach na chyflwyno damcaniaethau newydd. (Byddaf yn ceisio dilyn y canllawiau yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Simplified_ruleset). Ond nid oes yr un erthygl yn ddi-fai, ac mae wastad lle i wella. Caf olwg eto ar yr erthygl a gweld a oes modd ei gwella ymhellach.

  4. Hysbysiad Cyfeirio: Camsyniadau a barbariaeth: Llanedern, Llanedeyrn, Llanedarne … | Diferion o'r Pwll Coch:

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s