Map Caerdydd Danddaearol

Fideo

Am 7.30pm nos Fercher yma (28 Mehefin) bydd map unigryw o Gaerdydd yn cael ei lansio yn Cardiff MADE, 41 Lochaber Street, y Rhath. Fersiwn Cymraeg ydyw o’r map poblogaidd Cardiff Underground a luniwyd gan gwmni I Loves the ‘Diff, sydd yn ei dro wedi ei seilio ar fap ‘Underground’ Llundain.

Syniad Pwyllgor Apêl Eisteddfod 2018 Pen-y-lan, Cyncoed, Parc y Rhath a Cathays oedd trosi’r map i’r Gymraeg. Felly rai wythnosau yn ôl derbynias wahoddiad i helpu dewis enwau’r gorsafoedd er mwyn ceisio mapio’r Gaerdydd Gymraeg.

Bu’r dasg yn heriol ond hynod ddiddorol! Gyda chymorth y pwyllgor, anelais at greu map y byddai trwch ei orsafoedd yn gyfarwydd i bawb, ond heb deimlo’r angen i ddilyn y fersiwn Saesneg pan fo enwau neu leoliadau amgen a fyddai’n gweddu’n well i’r gymuned Gymraeg.

Yma a thraw, daeth cyfle i gyflwyno ambell enw neu elfen o hanes Caerdydd a fyddai — o bosibl — yn llai adnabyddus. Felly dyma flogiad i ddweud ychydig yn rhagor am rai o’r enwau llai cyfarwydd, ac i godi awydd ynoch, gobeithio, i weld y map cyfan drosoch eich hun!

Ond cyn dechrau â’r enwau, gair i ddiolch yn arbennig i Christian Amodeo o I Loves the ‘Diff, ac i Nia Richards o’r Pwyllgor Apêl. Bu cymorth Rhian Huws Williams a Rhys Evans yn anhepgor, a diolch hefyd i weddill aelodau’r pwyllgor (ymddiheuraf nad oes modd eu henwi i gyd yma).

Hyfryd hefyd oedd cael cynnwys ar y map linell o gywydd Emyr Lewis i Gaerdydd: ‘Y mae dinas amdanaf’. Bydd Emyr a Geraint Jarman yn ymuno yn y lansiad nos Fercher — mae modd sicrhau eich lle yno (am ddim ) yma. Gellir prynu’r poster am £12 neu gopi wedi ei fframio am £50. Bydd y map ar werth yn y lansiad ac yng ngŵyl Tafwyl. Fel arall, mae modd gosod archebion gyda Nia Richards (niabenaur@hotmail.com).

Felly ymlaen at yr enwau!

Alfred Street: y stryd yn ardal y Rhath a goffeir yng nghyfrol Geraint Jarman, Cerddi Alfred St. (1976). Llai hysbys yw’r ffaith i R. Williams Parry yntau fyw yno am gyfnod!

Y Cimdda: yr enw Cymraeg ar ardal Parc Victoria (weithiau yn y ffurf Cimdda Llandaf). Mae’n cyfateb i Ely Common yn Saesneg, neu Llandaff Common mewn cyfnod cynharach. Rwy’n trafod yr enw’n fwy manwl yn y blogiad hwn.

Cochfarf: sef Edward Thomas (1853–1912), un o Gymry Cymraeg amlycaf Caerdydd yn ystod Oes Victoria a dechrau’r ugeinfed ganrif. Perchennog tafarnau coffi ydoedd wrth eu alwedigaeth, a safai’r enwocaf ohonynt, y Gordon Coffee Tavern, ar gornel Bute Street a Custom House Street. Yno y sefydlwyd Cymdeithas Cymrodorion Caerdydd (cymdeithas Gymraeg hynaf y brifddinas — mae’n dal i ffynnu hyd heddiw). Roedd Cochfarf hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (y fersiwn gwreiddiol!) Mewn blogiad difyr amdano yn 2015, holodd Emlyn Davies, ‘Tybed pryd y bydd trigolion Caerdydd, a gweddill Cymru, yn penderfynu cofio am Cochfarf?’

Costwn: sef Cosmeston. Mae tystiolaeth i awgrymu mai dyma oedd ffurf y dafodiaith Gymraeg leol.

Y Crocerton: sef y Queen Street bresennol. Roedd Crockerton neu Crockherbtown yn hen enw ar y stryd hon — fe’i newidiwyd er mwyn anrhydeddu’r Frenhines Victoria. Ond fe gafwyd cryn wrthwynebiad i hynny. Fel y dywedodd J. Hobson Matthews mewn trafodaeth a gyhoeddwyd yn 1905:

two or three ineffectual attempts were made, by innovators on the Town Council, to obtain the abolition of “Crockherbtown” and the extension of the name “Queen Street” to the whole thoroughfare. When at last the Vandals succeeded, it was only by a very narrow majority of votes. To many people it seems a great pity the change was made. Every fourth-rate market town has its “Queen Street”; but “Crockherbtown” is ancient, distinctive and historically interesting. It is, moreover, still a household word in the mouths of genuine Cardiffians, who would rejoice to see it re-instated.

Er mai enw Saesneg ydyw o ran tarddiad, mae tystiolaeth mai ‘Y Crocerton’ a ddywedai’r Cymry.

Croes Uch Adam: dyma’r enw Cymraeg sydd wedi goroesi yn enw’r stryd ‘Croescadarn Road’ ym Mhentwyn. Fel y dangsodd yr Athro Gwynedd Pierce, ffurf lafar ar ‘ferch Adam’ yw’r ‘uch Adam’. Gwelir y ffurf ‘Croes Uch Adam’ mewn dogfennau megis y les hon o 1762.

Y Del: Parc Tyllgoed, neu Fairwater Park, yw hwn. Ond ‘The Dell’ yw enw’r bobl leol arno.

Efail y Dwst: dyma’r enw Cymraeg ar y Dusty Forge, yr hen dafarn yn Nhrelái sydd bellach yn ganolfan gymunedol.

Fferm y Grange: yr hen ffermdy a roes ei enw i Grangetown. Rwy’n trafod cysylltiadau Cymraeg y safle yn y blogiad hwn.

Y Gored Ddu: yr enw Cymraeg hanesyddol ar Blackweir. Rwy’n trafod yr enw’n fwy manwl yn y blogiad hwn.

Gorswg: ffermdy a safai gynt rhwng cylchfan Porth Caerdydd ac afon Rhymni yn hen blwyf Llanedern. Yno yr oedd cartref y bardd Lewis Jones ‘Gorswg’ (g. 1829). Fe gyflawnai swyddogaeth bardd gwlad yn ardal Llanedern hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac fe geir enghraifft o’i waith ar ddiwedd y blogiad hwn.

Hamadryad: enw ar ysbyty a pharc a hefyd, erbyn hyn, ysgol gynradd Gymraeg newydd. Rwyf wedi ysgrifennu am hanes yr enw a’r safle (a’u cysylltiadau â’r Gyrmaeg) yn y blogiad hwn.

Heol y Grange: mae hen fap o ran o ystâd Samuel Romilly (1757–1818) (ar gael yn Archifdy Morgannwg) a luniwyd tua 1812 yn dangos mai ‘Heol y Grange’ oedd yr enw ar y stryd a elwir bellach yn Sloper Road.

Heol y Plwca: yr enw hanesyddol ar City Road. Yn Saesneg y ffurf arferol oedd Plucca Lane, ond weithiau ceid Plucca Alley hefyd. Fe’i hailenwyd yn Castle Road yn 1874 ac wedyn yn City Road yn 1905.

Heol y Wainway: yr enw Cymraeg hanesyddol ar Windway Road, Treganna. Rwy’n trafod yr enw’n fwy manwl yn y blogiad hwn.

Llech y Filast: sef yr enw Cymraeg lleol ar siambr gladdu enwog Tinkinswood.

Llwyn yr Eos: y tŷ ar Heol y Bont-faen lle ganed Ivor Novello, mab y gantores Clara Novello Davies (1861–1943) .

Llywelyn Bren: disgynnydd i hen dywysogion Morgannwg oedd Llywelyn Bren. Yn 1316 fe wrthryfelodd yn erbyn yr awdurodau Seisnig ym Morgannwg. Methiant fu’r ymgyrch ac fe ddienyddiwyd Llywelyn gan Hugh Despenser, arglwydd Morgannwg, yng Nghaerdydd yn 1318, a hynny heb achos llys teilwng o’r enw. Crogwyd Llywelyn a’i chwarteru, a chladdwyd yr hyn a oedd yn weddill ohono yn Nhŷ’r Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd. Nodir safle ei fedd (yn fras) gan blac ar Heol y Brodyr Llwydion. Yn un o’i flogiadau ar gyfer y BBC, dywed Vaughan Roderick, ‘Mae’n adrodd cyfrolau taw’r gormeswr yn hytrach na’r arweinydd brodorol sy’n cael ei goffau yn Despenser Gardens ac hyd y gwn does ‘na ddim math ar gofeb i Llywelyn Bren yn unman.’ Byddwn yn cofio saith gan mlwyddiant dienyddio Llywelyn ym mlwyddyn Eisteddfod Caerdydd 2018.

Pilgot Fawr: enw ar gainc neu lednant o afon Elái sydd i’w gweld ar hen fapiau yn ardal Heol Penarth, Grangetown (tua lle mae’r Stadium Close presennol yn cwrdd â Heol Penarth). Mae union darddiad yr enw yn ddirgelwch, ond byddwn yn tybio mai o’r Saesneg y daw pilgot (efallai o pill a gout).

Sarn Fid Foel: enw ar y ffordd sydd bellach yn fwy adnabyddus wrth yr enw North Road. Ceir cofnod o Sarn Fid Foel yn y ddeunawfed ganrif. Mae’r ddiweddar Ceinwen Thomas yn trafod yr enw hwn a hen enwau eraill o ardal Caerdydd yn yr erthygl ddifyr hon (sy’n ddilyniant i erthygl gynharach ar yr un pwnc).

Siloam y Docs: dyma’r enw gwreiddiol ar yr adeilad sydd bellach yn neuadd gwrdd i Fyddin yr Iachawdwriaeth, ar gornel Corporation Road ac Avondale Road yn Grangetown. Capel i’r Bedyddwyr Cymraeg ydoedd pan godwyd ef. Ymgartrefodd yr eglwys yn wreiddiol ar Sgwâr Mount Stuart, gan symud i Grangetown yn 1902.

Stryd y Slap: nid yw hwn yn lleoliad penodol nac yn enw swyddogol, afraid dweud! Ond mae’n coffáu digwyddiad nodedig yn hanes y Gaerdydd Gymraeg. Yn ei hunangofiant Tyfu’n Gymro (1972, t. 111) mae W. C. Elvet Thomas (1905–94) yn adrodd sut y bu iddo gael ei daro ar draws ei wyneb gan wraig a oedd wedi gwylltio wrth ei glywed ef a’i frawd yn siarad Cymraeg yn y stryd (Alexandra Road yn Nhreganna oedd cartref y teulu):

Un diwrnod, pan oeddwn i tuag wyth oed ac Arthur yn chwech, roeddem yn chwarae yn y stryd ac wrth gwrs yn siarad Cymraeg â’n gilydd. Daeth rhyw fenyw ddierth atom a gofyn i mi, “Were you two talking Welsh?” “Yes”, meddwn i. “Well, take that!” meddai hi, gan roi i mi slapen galed ar draws fy moch a wnaeth i mi wegian ar fy nhraed. Wedi hynny cerddodd yn dalog i ffwrdd, gan feddwl, mae’n siŵr, ei bod wedi dysgu gwers i gythraul bach o Gymro. Ac yn wir yr oedd wedi dysgu i mi wers hallt. O’r dydd hwnnw, gwyddwn fod gan y Gymraeg ei gelynion …

Roedd y foment hon yn un ffurfiannol iddo (ac yn wir i’r Gymraeg yng Nghaerdydd). Aeth Elvet Thomas rhagddo i fod yn athro Cymraeg ysbrydoledig yn Ysgol Uwchradd Cathays gan gyflwyno’r iaith i unigolion fel Bobi Jones, Tedi Millward a Gilbert Ruddock; aethant ill tri ymlaen i fod yn ddarlithwyr prifysgol yn y Gymraeg. Disgybl arall oedd Geraint Jarman, a gyfeiriodd at y slap yn ei gerdd ‘Strydoedd Cul Pontcanna’:

A’r slap wrth dyfu’n Gymro
sy’n rhwygo’r rhuddin ynddo
cyn troi yn sant
cyn troi yn sant.

Tregoches: neu Tregochas. Ffermdy a fu’n ganolbwynt i Frwydr Sain Ffagan (1648) — yn sgil hynny fe ddatblygwyd y ffurf ryfedd ‘Tre-goch-gwaed‘! Yno hefyd y magwyd y cerddor Jacob Davies (1840–1921), tad y gantores Clara Novello Davies (1861–1943) a thaid Ivor Novello.

Tŷ’r Cymry: sef 11 Gordon Road yn y Rhath. Mae’n ganolfan i siaradwyr Cymraeg y ddinas er 1936.

Uchelolau: fel y dangoswyd gan yr Athro Gwynedd Pierce, dyma’r enw Cymraeg a (gam)gyfieithwyd yn ‘Highlight’. Mae Highlight Park bellach yn ardal ar gyrion y Barri.

Y Watrel: ffermdy a safai gynt ger safle Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Ar sail tarddu’r werin (am wn i), fe droes yr enw yn Waterhall (Waterhall Secondary Modern oedd rhagflaenydd Plasmawr). Erbyn heddiw fe gafwyd Plasdŵr yn ‘gyfieithiad’ o ‘Waterhall’. Ond ni bu unrhyw ‘blas dŵr’ — beth bynnag fyddai ystyr hynny — ar gyfyl y safle erioed!

Y Waun Ddyfal: yn wreiddiol ardal o dir comin oedd y Waun Ddyfal. Yr enw Saesneg arni oedd ‘the Little Heath’, a gyferbynnai â’r ‘Great Heath’ gerllaw (sef y Mynydd Bychan). Caewyd y tiroedd comin hyn ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond erys atgof o’r Waun Ddyfal yn enw’r stryd ‘Pen-y-wain Road’ yn y Rhath. Mae’n anodd nodi ei hunion ffiniau erbyn heddiw, ond yn fras, y Waun Ddyfal yw’r ardal rhwng Fairoak Road, Ninian Road, Wellfield Road, Albany Road a Heol y Crwys. Felly mae’r Waun Ddyfal bellach wedi ei rhannu rhwng wardiau Cathays a Plasnewydd. (Yn y blynyddoedd diwethaf, fe adeiladwyd stryd o dai o’r enw ‘Waun Ddyfal’ yn ardal Llwynfedw yng ngogledd ward y Mynydd Bychan, oddi ar Heol Caerffili. Fel egwyddor, wrth gwrs, mae’n dda o beth gweld hen enwau yn cael eu defnyddio o’r newydd. Ond mae safle’r stryd hon gryn bellter o’r Waun Ddyfal wreiddiol, ac felly’n tueddu i beri dryswch ynghylch ei lleoliad.)

Ysgol Gymraeg Caerdydd: agorwyd ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf Caerdydd yn 1949 ar safle Ysgol Gynradd Ninian Park ar gornel Sloper Road a Virgil Street yn Grangetown. Mae plac ar fur cyntedd yr ysgol yn cofnodi’r ffaith. Bu Gwyn Daniel, a fu’n athro yn Grangetown, yn gwbl allweddol wrth ymgyrchu dros yr ysgol hon.

Rygbi a newyddiadura Cymraeg: y cyfle a gollwyd

Yn fy mlogiad diwethaf, trafodais adroddiad papur newydd ar fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr mewn gêm rygbi a chwaraewyd ar 7 Ionawr 1899. Hyd y gwn i, dyna’r adroddiad cyntaf erioed i’w gyhoeddi am gêm o rygbi yn y Gymraeg. Ac yn yr ychydig fodfeddi colofn hynny yr oedd potensial i ddechrau trawsnewid dyfodol y Gymraeg. Drwy ymgysylltu â champ a oedd yn prysur ddod yn rhan hanfodol o ddiwylliant a Chymreictod amgen y de diwydiannol, gallai’r iaith fod wedi bwrw gwreiddiau o’r newydd yn y cymunedau poblog hynny a oedd yn greiddiol i’w ffyniant. Ond collwyd y cyfle. Parhau i ddarllen

Idriswyn: arloeswr ysgrifennu rygbi yn y Gymraeg

Heddiw (12 Tachwedd 2016) mae timau rhyngwladol Cymru yn y rygbi a’r bêl-droed ill dau yn chwarae gartref yng Nghaerdydd. Dyma gyfle unwaith eto i gnoi cil ar arwyddocâd y ddwy gamp yn ein bywyd cenedlaethol, rhywbeth a wnaed sawl gwaith eisoes eleni wrth i lwyddiant y tîm pêl-droed yn Ffrainc fwrw’r bêl hirgron, am unwaith, i’r cysgodion. Parhau i ddarllen

Ely, Trelái … ac UKIP

Mae gwrth-Gymreictod ymosodol ac agored yn brin yng Nghaerdydd bellach, diolch i’r drefn. Ond mae enghreifftau mwy cynnil o’r ffenomen yn dal i’w cael o bryd i’w gilydd. Sôn yn benodol yr wyf yma am gyhoeddiadau a rhaglenni dogfen sy’n mynd ati—yn fwriadol neu beidio—i danseilio lle’r Gymraeg yn hanes y ddinas. Rwyf wedi sôn mewn blogiad arall am achos o hyn yng nghyd-destun yr enw ‘Caerdydd’ ei hun. Trafod enghraifft arall yw bwriad y blogiad hwn. Parhau i ddarllen

Camsyniadau a ‘barbariaeth’: Llanedern, Llanedeyrn, Llanedarne …

Soniais yn fy mlogiad diwethaf am Lecwydd, ardal o Gaerdydd sydd heb ffiniau cydnabyddedig am y rheswm syml nad yw’n bodoli fel ward neu gymuned. Yn ddiweddar bu Cyngor Caerdydd yn ystyried newid hynny. Er mai penderfynu peidio â chreu cymuned o’r enw Lecwydd a wnaed yn y pen draw, mae’r Cyngor yn bwrw ati—yn ddibynnol ar gyfnod o ymgynghori—i roi statws cymuned i sawl rhan o’r ddinas, gan gynnwys Pontcanna a Llanedern. Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i fynegi barn ar sawl peth, gan gynnwys sillafiadau rhai o’r cymunedau newydd. Bwriad hyn o flogiad, felly, yw dweud gair am enw un o’r cymunedau newydd hyn, sef Llanedern. Parhau i ddarllen

Victoria Park aka Parc y Cimdda

Mewn blogiad blaenorol bûm yn ystyried a oes enw Cymraeg hanesyddol ar Victoria Park yn Nhreganna, Caerdydd, neu o leiaf ar yr ardal ehangach y crewyd y parc ohoni yn y 1890au. Ers hynny rwyf wedi cael cyfle i edrych yn fanylach ar bethau. A’r ateb digamsyniol yw: ‘Oes’! Parhau i ddarllen

Ar y wagen ar Windway Road

Mae hen dafarn Tŷ Pwll Coch yn sefyll ar gornel Heol y Bont-faen a Windway Road, bellach yn ardal Treganna, Caerdydd. Byddai’n hawdd credu mai creadigaeth o ddechrau’r ugeinfed ganrif, fel y strydoedd o’i chwmpas, yw Windway Road. Ond nid felly y mae. Mae’n llawer iawn hŷn na hynny. Cael cip sydyn ar hanes y stryd fach hon (a chip ar hanes y Gymraeg yn yr ardal) yw nod y blogiad bach hwn. Parhau i ddarllen

‘Oes rhiwin yn mynd i’r sdeddfod?’ Sillafu’r Gymraeg yn yr oes ddigidol

Digon niferus yw’r bobl hynny sy’n cwyno nad oes digon o Gymraeg i’w chlywed ar hyd a lled y wlad y dyddiau hyn. Ond anaml y bydd yr un bobl yn ymfalchïo bod mwy o Gymraeg nag erioed yn cael ei hysgrifennu y dyddiau hyn, a hynny gan fwy o bobl nag erioed. Diolch i’r we ac yn arbennig i’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r Gymraeg yn cael ei hysgrifennu’n gyson gan ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen. Parhau i ddarllen

Y Gymraeg a’r Grangetown gynnar

Daeth Gŵyl Grangetown i ben ddoe wedi wythnos o ddathlu cymunedol, a hynny mewn tywydd bendigedig. Mae’n amser addas imi felly ateb cwestiwn a ofynnwyd imi’n ddiweddar gan gyfaill. A oedd Grangetown yn ardal Gymraeg cyn y datblygu mawr tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Yr ateb syml i’r cwestiwn hwnnw yw — ydoedd. Parhau i ddarllen