Rygbi a newyddiadura Cymraeg: y cyfle a gollwyd

Yn fy mlogiad diwethaf, trafodais adroddiad papur newydd ar fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr mewn gêm rygbi a chwaraewyd ar 7 Ionawr 1899. Hyd y gwn i, dyna’r adroddiad cyntaf erioed i’w gyhoeddi am gêm o rygbi yn y Gymraeg. Ac yn yr ychydig fodfeddi colofn hynny yr oedd potensial i ddechrau trawsnewid dyfodol y Gymraeg. Drwy ymgysylltu â champ a oedd yn prysur ddod yn rhan hanfodol o ddiwylliant a Chymreictod amgen y de diwydiannol, gallai’r iaith fod wedi bwrw gwreiddiau o’r newydd yn y cymunedau poblog hynny a oedd yn greiddiol i’w ffyniant. Ond collwyd y cyfle.

Pam? Pam y bu’n rhaid aros ddwy genhadlaeth cyn i waith arloeswyr ym maes darlledu megis y digymar Eic Davies ddechrau dod â rygbi a’r Gymraeg ynghyd mewn modd ystyrlon? Nod y blogiad hwn yw cynnig rhan o’r ateb.

Cysodwr a newyddiadurwr o Gaerdydd oedd awdur yr adroddiad: Edward Thomas (‘Idriswyn’, 1847–1906; daw’r llun isod o ysgrif yn y Weekly Mail). Ymddangosodd ei ddarn yn yr Evening Express ar noson y gêm ac eto yn y Western Mail ar y dydd Llun canlynol. Ysgogodd gryn ymateb.

Idriswyn

Yr un peth yr oedd sylwebyddion yr oes yn gytûn arno oedd beiddgarwch Idriswyn am fentro i ysgrifennu am rygbi (neu ‘bêl-droed’ fel y dywedid bryd hynny) yn Gymraeg. Yng ngeiriau canmoliaethus y Barry Dock News (13 Ionawr), ‘The Western Mail is the pioneer of all that is enterprising and up-to-date in the journalism of the Principality. Last Monday “Idriswyn” contributed a full descriptive report in the Welsh language of the international football match, Wales v. England, together with interesting comments on the game.’

Ailgyhoeddodd The London Kelt (14 Ionawr) dalp o’r adroddiad, ond nid heb awgrym o dynnu coes ynghylch y defnydd o’r Gymraeg: ‘Aeth y Saesneg yn rhy brin i fobl Caerdydd dydd Sadwrn diweddaf, yn eu brwdfrydedd ar ol y fuddugoliaeth ar gae y bêl droed. ‘Roedd gwel’d y Cymry wedi curo’r Sais yn ormod i waed tawel “Idriswyn,” a rhoddodd golofn yn Gymraeg yn y Western Mail i ddesgrifio’r ymdrech.’

Yng ngeiriau Tarian y Gweithiwr (12 Chwefror), ‘Diau mai “tori tir newydd” y gelwir ei waith cyn hyn yn rhoddi hanes “football, match” rhwng y Cymry a’r Saeson yn y “Western Mail” mewn Cymraeg glan gloew’.

Ond ymateb o fath arall a gafodd y cylchrediad mwyaf. Drannoeth cyhoeddi’r adroddiad yn y Western Mail, fe brintiodd y papur hwnnw gadwyn o englynion (gyda chyfieithiad Saesneg) yn ymateb i arloesi Idriswyn. Ni roddwyd enw’r bardd, dim ond y cyflwyniad byr hwn: ‘This is how a Puritan bard sang on reading “Idriswyn’s” Welsh report of the big match on Saturday, in the “Evening Express”:—’

idris

Englynion i Idriswyn o’r Western Mail

Mae’n amlwg i’r englynion hyn ennyn cryn ymateb. Fe’u hailgyhoeddwyd mewn sawl papur arall, gan gynnwys Y Dydd (13 Ionawr: ‘Nid ydym yn cydweled a’r bardd yn ei holl syniadau, ond gwelsom salach englynion lawer tro’), Llangollen Advertiser and North Wales Journal (20 Ionawr), Y Brython Cymreig (27 Ionawr), Seren Cymru (27 Ionawr), a Tarian y Gweithiwr (12 Chwefror: ‘Ond mynai rhai mai hyfrda ar iaith gysegredig crefydd oedd hyny [sef cyhoeddi adroddiad ar gêm rygbi yn y Gymraeg]’).

O bersbectif yr unfed ganrif ar hugain, mae’n demtasiwn cymryd mai â thafod yn y foch y lluniwyd y penillion hyn. Mae’r ieithwedd sathredig (‘reportiwr’), y gorymateb (‘yn was diawl’) a’r ormodiaith eithafol (‘Cyssegr-speilio Gwalia’) yn peri inni gredu nad oedd y bardd dienw mewn gwirionedd yn glafoerio gan gynddaredd ynghylch yr adroddiad. A hynny heb sôn am Howell Harris yn hwylio’r trwy’r nefoedd i ddial ar Idriswyn druan! Mae’r gic slei a anelir at Gaerdydd (‘Gwrida, ow, it roi, Gaerdydd, / I ddiawlaid iaith addolydd’) hithau’n awgrymu mai tynnu coes sydd yma’n fwy na dim. Ond eto, rhaid nodi bod digon o enghreifftiau o ieithwedd debyg mewn cerddi sy’n lladd ar y bêl-droed ym mhapurau’r oes, megis yr englynion dienw hyn o 1896 neu’r rhain gan Ben Griffiths, Llansamlet, o 1894.

Cytuno’n llwyr â’r feirniadaeth a wnaeth o leiaf un colofnydd papur newydd a ailgyhoeddodd yr englynion. Roedd y Parchedig D. Oliver Edwards (1837–1908) yn weinidog blaenllaw gyda’r Bedyddwyr, ac yn frawd i William Edwards (1848–1929), prifathro Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd. Yn ei golofn ‘Efail y Gof‘ yn Seren Cymru (wythnosolyn y Bedyddwyr) ar 27 Ionawr, taranodd Oliver Edwards yn erbyn y bêl-droed. Ffurf ymddiddan rhwng gwahanol gymeriadau sydd i’r golofn, a rhoddir personoliaeth a llais i’r bêl-droed er mwyn iddi allu cyflwyno peth o’i hanes ei hun (a’i chondemnio’i hun ar yr un gwynt):

‘Yr wyf yn ei theimlo yn anrhydedd i gael dweyd gair o’m hanes. Bum mewn anrhydedd mawr er’s can mlynedd yn ol yn Nghymru. Cefnogwyd fi braidd yn ddieithriad gan yr offeiriaid. Yr oeddynt hwy yn edmygwyr mawr o honof. A pha anrhydedd fwy allwn gael na chael fy nghefnogi gan Olynwyr yr Apostolion? Wedi i’r offeiriad fod yn yr eglwys yn darllen y llithiau, deuai allan i’r cae cyfagos, ymgymmysgai a’r dorf, a chymmerai ran selog yn y chwareu. Ond cododd rhyw hen bregethwyr ffol i’m herbyn, gan ddweyd ei bod yn bechadurus i gicio’r bêl droed ar y Sabboth neu ynte rhyw ddiwrnod arall. Gwrandawodd y bobl arnynt, a chladdwyd fi o’r golwg. Ond er’s ychydig flynyddoedd yn ol cefais adgyfodiad gogoneddus. Yr wyf fi mewn mwy o anrhydedd heddyw nag y bum erioed. Nid oes bregethwr ar y ddaear mor boblogaidd. Nid cwrdd misol y byddaf fi yn ei gadw, nac ychwaith cwrdd chwarter, ond CYMMANFA. Ac y mae fy nghymmanfaoedd i y rhai mwyaf lluosog a welodd unrhyw wlad erioed. Mae dynion yn cael myned i’r gwahanol gymmanfaoedd ereill heb dalu, ond y mae yn rhaid talu i ddyfod i’m cymmanfa i. Pa beth feddyliai Christmas Evans, John Ellas, neu Williams o’r Warn am y gymmanfa gynnaliwyd genyf fi pa ddydd yma yn Abertawe? Ni phregethodd C. H. Spurgeon yn ei fywyd i’r fath dorf aruthrol. Chwi welwch fy mod i yn fwy poblogaidd na’r pregethwr mwyaf enwog welodd y byd erioed. Daeth pumtheg mil gyda’r Great Western Railway yn unig i dalu eu gwarogaeth i mi, a llawer o honynt o bellder mawr. Prinder arian yn wir! na, ni welais i brinder arian erioed. Peidier a dweyd fod dynion yn dlawd, canys nid ydynt. Yr oedd cannoedd lawer ar y grand stage, ac yn eu mysg Aelodau Seneddol, maerod, offeiriaid, landlordiaid, cyfreithwyr, henuriaid, ynadon, meddygon, yn nghyd â hufen cymdeithas. Dywedir fod yn agos i ddeng mil ar hugain yn edrych ar fy ngweithrediadau, a derbyniwyd pumtheg cant o bunnau wrth y clwydi!! Prinder arian yn wir! na, welais i brinder arian erioed.’

Dyma rygbi fel gelyn Anghydffurfiaeth a chyfaill yr Eglwys Wladol, yn llygad-dynnu’r mawrion a’r werin fel ei gilydd. Difyr felly yw nodi bod y papur eglwysig Y Llan a’r Dywysogaeth yntau wedi cyfeirio at wreiddioldeb Idriswyn mewn adroddiad ar 13 Ionawr. Ond fe’i rhybuddiwyd ef hefyd i ‘ofalu am burdeb ei iaith, pan yn ymgymeryd a’r anturiaeth o ddesgrifio ymgyrch o’r fath, gan fod awdurdod ieithyddol yn trigianu heb fod neppell o’i swyddfa’. Bid a fod am hynny, mae’n amlwg fod Oliver Edwards o’r farn fod Idriswyn wedi ymrestru ymhlith gelynion Cymru wrth ysgrifennu am rygbi yn y Gymraeg. Ac nid yw ieithwedd y darn yn bell iawn o arddull englynion y Western Mail chwaith.

Cymeriad o’r enw Arthur (yn arwyddocaol ddigon) sy’n cael ymateb i sylwadau’r ‘Bêl-droed’:

‘Mae golwg ddifrifol ar ein gwlad. Sicr yw fod ein dynion ieuainc yn myned yn inffideliaid yn brysur. Mae y chwareu yn greulon a bwystfilaidd, ond beth am y canlyniadau? tyngu, rhegi, meddwi, ac ymladd—dyma y canlyniadau ar ol pob ymdrechfa. Pa faint sydd wedi cael eu hanafu a’u lladd? Gellid meddwl wrth bapyr Ceidwadol mai y Bel Droed ydyw un o’r bendithion mwyaf ddaeth i’n gwlad, ac y dylai pob newyddiadur Ymneillduol gofnodi hanes ei gweithrediadau, a phob pregethwr gyfeirio ati o’r pwlpud. Wel, wel, dyma ydyw eithafion rhyfyg. Pa les a wnaeth erioed? Pa gelwyddwr wnaeth yn eirwir? Pa odinebwr wnaeth yn ddiwair? Pa gablwr wnaeth yn folianwr? Pa leidr wnaeth yn onest? Pa feddwyn wnaeth yn sobr? Pa ddaioni wnaeth i gymdeithas? A oes rhywun all ateb? Os nad yw wedi gwneyd daioni, sicr yw ei fod wedi gwneyd drygioni. Mae yn ddigon hysbys i bawb mai rhegfeydd, meddwdod, ac ymladdfeydd sydd yn dilyn ei chamrau. A phe bae genyf fi ddwsin o fechgyn buasai yn ddrwg iawn genyf weled un o honynt yn nghymdeithas yr hen filanes. Gellir penderfynu fod y Bel Droed yn un o felldithion penaf yr oes, a neb llai na’r diafol roddodd adgyfodiad iddi. Buasai yn fendith o’r mwyaf pe bae yn cael ei chicio o fodolaeth. Gwnaeth rhyw un a gyfenwa ei hun yn Idris[w]yn gofnodi y fuddugoliaeth ogoneddus (?) gafodd y Cymry ar y Saeson yn y Western Mail yn yr iaith Gymraeg …’

A diau fod ofnau Oliver Edwards yn cael eu crisialu ar ddiwedd y darn:

‘Gellir penderfynu y bydd i’r Bêl Droed brofi yn felldith i filoedd o’n dynion ieuainc. Gwae i Gymru iddi gael adgyfodiad. Yn lle bod dynion ieuainc yn ei chicio hi, bydd hi yn fuan yn eu cicio hwy—i ffosydd anniweirdeb, i gwteri meddwdod, ac i gorsydd llygredigaeth. Coded pob pwlpud Cristionogol ei lais yn ei herbyn.’

Roedd yr ymateb eithafol hwn gan Oliver Edwards yn ddigon i dynnu sylw Y Cymro , a adroddodd ar 9 Chwefror ei bod ‘wedi myned yn rhyfel bapyr wyllt rhwng Idriswyn a’r Parch D. Oliver Edwards—y cyntaf yn y Weekly Mail, a’r ail yn Seren Cymru. Y bêl droed yw pwynt y cweryl, ac y mae llawer o bupur, mwstard, a halen yn cael eu cymhwyso.’ Erbyn hynny yr oedd Idriswyn, yn y Weekly Mail, wedi llunio ymateb diflewyn ar dafod i golofn Oliver Edwards. Mae ei frawddeg gyntaf yn rhoi blas teg ar ei gynnwys:

Nid oeddwn heb ddysgwyl—nid ofni—i ambell ysgrifenydd yn y papyrau Cymreig ymosod arnaf am ysgrifenu adroddiad o ymdrechfa Gydgenedlaethol y Bel Droed a gymerodd le yn ddiweddar yn Abertawe; gwneir hyny yn “Seren Cymru”; ac er mai gweinidog yr efengyl sydd wrthi, nid yw o’r braidd yn werth sylw—pentwr o ddylni yw’r druth o’r dechreu i’r diwedd.

Beth ddaeth o hyn oll felly? Ni fennwyd dim ar rygbi gan y ffrae hon (nad oedd wrth gwrs ond un elfen mewn dadl ehangach am berthynas chwaraeon a’r Gymru Anghydffurfiol). A chwarae teg i Idriswyn, daliodd ati i adrodd am gemau rygbi rhyngwladol. Ac fe gafodd ef ambell ddilynwr, megis Gwilym Hughes (‘Ap Idanfryn’, 1864–1933), gogleddwr arall o Gaerdydd a ysgrifennodd yn y South Wales Daily News (18 Rhagfyr 1905, ailgyhoeddwyd yn Tarian y Gweithiwr) am fuddologiaeth enwog y Cymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1905, fel y nododd Gareth Williams yn ei gyfrol 1905 and all that. Ond wrth i rygbi fynd o nerth i nerth, arhosodd newyddiaduraeth Gymraeg am rygbi ar y cyrion, yn destun gwg gan gyfundrefn a gredai mai yn Saesneg y dylid trafod chwaraeon, os oedd angen eu trafod o gwbl. Ni wnaeth hynny fawr ddim drwg i rygbi. Ond bu’n andwyol i’r Gymraeg. Mae ei effaith i’w chlywed hyd heddiw.

Advertisements

2 sylw ar “Rygbi a newyddiadura Cymraeg: y cyfle a gollwyd

  1. Diolch, diddorol iawn 🙂
    O leia fe fu rhyw fath o selogrwydd gyda’r Cymry gynt, rhwng y capeli a’r rygbi … ac heddiw? (E.e. pwy sy’n erbyn drygioni y Torïaid y dyddiau hyn yng Nghymru?)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s