‘Oes rhiwin yn mynd i’r sdeddfod?’ Sillafu’r Gymraeg yn yr oes ddigidol

Digon niferus yw’r bobl hynny sy’n cwyno nad oes digon o Gymraeg i’w chlywed ar hyd a lled y wlad y dyddiau hyn. Ond anaml y bydd yr un bobl yn ymfalchïo bod mwy o Gymraeg nag erioed yn cael ei hysgrifennu y dyddiau hyn, a hynny gan fwy o bobl nag erioed. Diolch i’r we ac yn arbennig i’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r Gymraeg yn cael ei hysgrifennu’n gyson gan ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen.

Mae mwy o amrywiaeth hefyd yn natur y Gymraeg sy’n ymddangos mewn print, neu’n hytrach ar sgrin. Oherwydd natur anffurfiol y cyfryngau digidol newydd nid pawb sy’n teimlo bod yn rhaid iddynt ddilyn rheolau traddodiadol yr iaith ysgrifenedig. Mae hynny yn ei dro yn esgor ar bob math o enghreifftiau hynod ddiddorol o Gymraeg sy’n tynnu’n groes i’r norm.

Un maes sy’n dangos effaith y rhyddid newydd hwn yw sillafu. At ei gilydd, mae perthynas agos yn y Gymraeg rhwng seiniau’r iaith a’i horgraff (sef ei system sillafu). Weithiau clywir pobl yn dweud bod y Gymraeg yn iaith ‘ffonetig’. Er nad yw defnyddio’r term ‘ffonetig’ felly yn ystyrlon mewn gwirionedd, mae’n wir fod y syniad y dylai sillafiadau Cymraeg adlewyrchu’r ynganiad yn un cryf iawn.

Felly pan welwn sillafiadau ‘anhraddodiadol’ ar lwyfannau digidol megis facebook neu twitter, un rheswm drostynt yw awydd yr ysgrifenwyr i adlewyrchu eu hynganiadau hwy eu hunain yn fanwl gywir.

Enghraifft gyffredin o hyn yw’r sillafiad sdeddfod. Mae hwn i’w weld yn gynyddol aml, ac mae’n siŵr y gwelwn ragor arno dros y pythefnos nesaf. Mae’n sillafiad digon synhwyrol mewn ffordd: mewn geiriau sy’n cynnwys y cyfuniad st mae sain yr ail gytsain mewn gwirionedd yn cyfateb i’r sain a ddynodir gan amlaf â d. Y garfan sy’n fwyaf cyfarwydd â’r ffaith hon yw’r cynganeddwyr. Ni fyddent yn cynganeddu ‘stori’ a ‘suo tirion’, er enghraifft; rhaid fyddai cyfuniad fel ‘stori’ a ‘suo dyrys’. Ac i glust nifer o ysgrifenwyr cyfoes (wrth ysgrifennu’n anffurfiol), nid yw steddfod yn cyfleu’r sain yn ddigon manwl, a gwell ganddynt felly ysgrifennu sdeddfod.

Gair arall yr wyf wedi ei weld yn bur aml yn ddiweddar yw rhiwin (am rhywun). Ar yr olwg gyntaf, gellid tybio mai sillafiad deheuol yw hwn gan nad yw tafodieithoedd y de yn gwahaniaethu rhwng y llafariaid mewn parau megis hŷn a hin (hynny yw, o fod yn dechnegol, nid oes ganddynt lafariaid canol caeedig). Ond nid felly. Gogleddwyr sy’n defnyddio’r ffurf rhiwin, hyd y gwelaf i. (Mae modd chwilio am enghreifftiau ar twitter neu drwy gwglo mae rhiwin.)

Y rheswm syml am hyn yw mai rhiwin yw’r ynganiad gogleddol arferol. Mae hynny’n annisgwyl, efallai. Onid sain y ‘glir’ a ddylai fod i’r y, a sain u ogleddol i’r u, yn hytrach na sain i? Wel nage, a dyma esbonio pam.

Mae nifer o eiriau unsill yn y Gymraeg sydd yn gorffen mewn –yw. Yn achos sawl un ohonynt y mae’r ynganiad wedi newid o –yw i –iw ers canrifoedd. Er ein bod (gan amlaf) yn ysgrifennu cyw, dryw, rhyw, byddwn yn dweud ciw, driw, rhiw. Mae hyn yn wir yn y gogledd a’r de. Mewn geiriau eraill, pe byddai gogleddwraig am ba reswm bynnag am ddatgan ei ffyddlondeb i un o’n hadar lleiaf, fe ddywedai ‘byddaf yn driw i’r dryw’, gan roi’r un sain yn union i driw (<triw) a dryw. Nid pob gair o’r fath sydd wedi newid ei sain felly; daliwn yn y gogledd i ddweud byw, clyw a llyw ac nid biw, cliw a lliw. Ond aeth –yw yn –iw mewn sawl gair unsill, gan gynnwys rhyw.

Beth wedyn am yr -un? Wel, yr hyn a ddigwyddodd yw bod y sain i yn rhyw (a yngenir fel rhiw) wedi effeithio ar y llafariad yn –un a’i newid yn i. Cymhathu yw’r term am hyn—mae’n llai o drafferth inni ynganu gair fel hyn â dwy lafariad debyg yn hytrach na dwy lafariad wahanol. Felly aeth rhiwun yn rhiwin. Digwyddodd yr un peth mewn llu o eiriau eraill, megis llinyn a dilyn. Ynganiad arferol y rhain yn y gogledd fel yn y de yw llinin a dilin. (Pam nad eu sillafu felly? Wel, un rheswm yw bod angen cadw’r y mewn ffurfiau fel llinynnau a dilynaf.) Enghraifft arall o hyn yw ei gilydd (i gilidd). Un arall eto yw i gyd. Mae pawb yn y gogledd yn ynganu’r ymadrodd hwn fel i gid (nid fel i gyd i odli â byd).

Yn ddiddorol iawn, un garfan sy’n anwybyddu’r datblygiadau hanesyddol hyn yw’r cynganeddwyr. Hyd y gwelaf, byddant yn gyson yn odli i gyd â byd, er bod yr odl honno wedi marw ar lafar ers canrifoedd. (Yn y de, daeth unwaith eto yn odl gyflawn yn sgil colli’r gwahaniaeth rhwng u/y ac i. Ond pwnc ar gyfer blogiad arall yw hynny!)

Os yw rhai gogleddwyr yn ysgrifennu rhiwin pam tybed nad yw’r deheuwyr hwythau’n gwneud yr un peth? Wel, maen nhw wedi hen arfer â chael y ac u yn cynrychioli sain i, felly nid oes dim anghyson yn y sillafiad rhywun o’u safbwynt hwy.

Heb amheuaeth, mae’r we yn rhoi bywyd newydd i sillafiadau fel hyn. Ond camgymeriad fyddai tybio eu bod yn gwbl newydd. Mae sdeddfod a rhiwin gyda ni er y bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf. Ac yn wir rhwin, sydd yn dangos datblygiad pellach eto.

Mae’r ysfa hon i sillafu fel yr ydym yn siarad yn elfen ddifyr ar ddiwylliant (neu’n elfen ddifir ar ddiwilliant?) llenyddol y Gymraeg. Mae’n esgor ar ragor o amrywiaeth yng nghyweiriau’r iaith, ac i mi mae hynny i’w groesawu—at ei gilidd!

Advertisements

2 sylw ar “‘Oes rhiwin yn mynd i’r sdeddfod?’ Sillafu’r Gymraeg yn yr oes ddigidol

  1. Cytuno’n llwyr fod awydd (cynyddol) rhai siaradwyr Cymraeg i adlewyrchu eu hiaith lafar mewn print yn elfen hynod ddifyr ar ddiwylliant llenyddol y Gymraeg, ac nad yw’n llesol collfarnu’r tueddiadau pwysig hyn byth a beunydd. Fel tafodieithegydd, mae’r amrywiadau hyn o ddiddordeb mawr i mi gan eu bod yn werthfawr ar gyfer olrhain datblygiadau cyfoes yn yr iaith. Fodd bynnag, fe ddadleuwn i ei bod yn hynod bwysig – er parhad y Gymraeg – fod rhagor o siaradwyr Cymraeg yn dod i deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio ystod o gyweiriau, gan gynnwys yr iaith safonol (h.y. yr orgraff a’r ramadeg draddodiadol), er bod amrywiadau tafodieithol yn hollol iawn mewn rhai cyd-destunau wrth gwrs, megis ar Facebook ac wrth decstio.

    Tueddiad arall yr ydw i wedi sylwi arno yn ystod y misoedd diwethaf yw’r defnydd o ‘u’ mewn geiriau lle y disgwyliech chi ‘y’ yn yr iaith ysgrifenedig safonol, e.e. ‘fan hun’, ‘faint su ar ôl’, a ‘cun 6’ hyd yn oed! A gogleddwyr yw awduron y ffurfiau yma – efallai eu bod yn teimlo nad yw ‘y’ yn ddigonol ar gyfer cyfleu sain yr ‘u ogleddol’, neu bod y llythyren hon yn rhy amwys.

    Yn yr un modd, ar sail gwaith maes a wnes i yng nghyffiniau Harlech a Chwm Nantcol, mi nodais i nifer o enghreifftiau o’r sain “i” lle y byddech chi’n disgwyl i ogleddwyr ddefnyddio “u”. Fe welwch chi restr o’r rhain ar tt.248-49 http://cadair.aber.ac.uk/dspace/bitstream/handle/2160/13424/Rees_I_W.pdf?sequence=2, ac fel y mae Dylan yn ei awgrymu, gall rhain fod yn ddefnyddiol i’r cynganeddwyr. Yn sicr, fe ddadleuwn i na all unrhyw un sy’n odli “i gyd” gyda “byd” honni gydag arddeliad mai rhywbeth i’r “glust” yw’r gynghanedd! Ffurf arall a welais i ar Facebook yn ddiweddar yw “gwilia” – yn debyg i “rhiwin”, fe welwch chi fod ail elfen deusain y goben wedi cymhathu at y llafariad olaf. Rhai dyrys wedyn yw ffurfiau fel “oiri”, “poithi” a “croisi” – tybed ai amrywio rhwng “oi” ac “ou” sy’n gyffredin yn y geiriau hyn drwy’r gogledd? Atebion ar gerdyn post, o.g.y.dd!

    I gymhlethu pethau eto, galla’i feddwl am ambell enghraifft o “u” mewn geiriau lle y byddech chi’n disgwyl “i” drwy Gymru. Dychmyger, er enghraifft, “saum byd” ar gyfer ‘does ’na ddim byd’ (fe welwch chi fanylion pellach am hyn ar tt.267-8, ynghyd â ffurfiau odiach fyth o Fro Dysynni!).

    A beth wedyn am “clyw”? O’m rhan fy hun, “cliw” fyddai fy ynganiad o’r gair, yn debyg i “ciw”, “rhiw” a “driw”. Ond ai dyna a geid drwy’r gogledd? Ac o sôn am hynny, onid yw’n destun rhyfeddod fod y geiriau “byw” a “Duw” wedi cadw’r ‘u ogleddol’? Oes gan unrhyw un syniad pam, tybed?

    Beth bynnag am hynny, diolch, Dylan, am ysgogi trafodaeth ar destun pwysig. Yn amlwg, mae dirfawr angen gwneud rhagor o waith maes ym mhob pob cwr o Gymru cyn y bydd modd taflu goleuni ar holl gymhlethdodau ein tafodieithoedd ni!

  2. Diolch am y sylw, a’r dolenni i dy waith.

    Cytuno’n llwyr am bwysigrwydd yr iaith safonol. Ond rwy’n rhyw dybio mai unigolion sy’n bur hyderus wrth ysgrifennu Cymraeg safonol sydd yn defnyddio’r sillafiadau ansafonol (yn aml iawn, er nad o hyd, chwaith).

    Mae’r cynganeddwyr yn gyson iawn yn odli ‘i gyd’ â ‘byd’ etc. Ond mae’n siŵr bod eithriadau — oes rhywun yn gwybod am rai?

    Bydd rhaid gwrando’n astud am ‘clyw’! (I Fynes-Clinton ganrif yn ôl ‘clyw’ ac nid ‘cliw’ oedd yr ynganiad yn ardal Bangor. Ond gall fod pethau wedi newid ers hynny, wrth gwrs.)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s