Priodas Pwll-coch, 1849

Mae cannoedd ar filoedd o benillion Cymraeg wedi eu cyfansoddi i ddathlu priodasau. Ond dyma un sydd o ddiddordeb arbennig i mi, fel yr esboniaf yn y man:

Pob cysur ddilyno yr undeb cariadlon,

Ac arnynt disgyned rhyw wlith o fendithion;

Boed iddynt gyd-oesi mewn mwyniant flynyddoedd,

Pan fo’u dydd ’n diweddu ’tifeddu y nefoedd.  ‒ D. & R.

O safbwynt llenyddol, nid yw’n disgleirio. Ond mae ei gynhesrwydd uniongyrchol yn effeithiol a chofiadwy. Pwy oedd ‘D. & R.’? Ni wn. Ond mae amgylchiadau cyfansoddi’r pennill bach hwn yn rhoi cipolwg bach ar ddiwylliant Cymraeg cyrion gorllewinol Caerdydd yn ystod rhan gyntaf oes Fictoria.

Fe’i cyfansoddwyd yn y flwyddyn 1849, a’i gyhoeddi yn y Cardiff and Merthyr Guardian, Glamorgan, Monmouth, and Brecon Gazette gyda’r nodyn esboniadol hwn: ‘Feb. 5, at Llandaff Cathedral (by license), by the Rev. R. Prichard, B.D., Mr. John Jonas, of Pwllcoch, Ely, to Alice, youngest daughter of Mr. William Davies, maltster, Ely.’

Dyma’r Gymraeg yn fyw ac iach ym Mhwll-coch a Threlái (ill dau ym mhlwyf Llandaf), cymaint felly fel bod rhywun wedi cynnwys pennill Cymraeg i’r par priod mewn papur newydd Saesneg. Roedd y teulu Jonas yn seiri olwynion ac yn cadw tafarn Tŷ Pwll Coch; mae’r ffaith i’r briodas gael ei chynnal drwy drwydded yn awgrymu mai anghydffurfwyr oeddynt. Efallai y daw cyfle i ddweud mwy am y Jonasiaid rywdro eto.

Ond am y tro, ni wnaf ond diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu gwefan ragorol Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Hebddi, ni fyddwn byth wedi gweld y gerdd fach hon. Mae’r wefan yn cynnwys cannoedd o filoedd o dudalennau o ddwsinau o bapurau newydd a gyhoeddwyd hyd at 1910 (ac yn ddiweddarach yn achos ambell deitl). Byddai’n rhwydd iawn treulio oriau bwy gilydd yn chwilota yn y miliynau o eiriau. Ond go brin y daw cyfle i wneud hynny’n iawn cyn ymddeol…

2 sylw ar “Priodas Pwll-coch, 1849

  1. Hi – Jonas are my family. And this marriage announcement is of my x3 great grandparents. I dont suppose you ever did carry out more research about them. I would love to know what you found out.

    • Thanks for getting in touch. The Jonas were related to a network of Welsh-speaking farming families on the outskirts of Cardiff: Ely Farm, Wedal Farm etc. If you have questions about specific individuals do let me know.

Gadael sylw